12 Rhagfyr 2016

 

Annwyl Gyfaill

 

Ymgynghoriad ar y 1,000 Diwrnod Cyntaf

 

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar y 1,000 Diwrnod Cyntaf.

 

Yn ôl ymchwilwyr mae'r 1,000 Diwrnod Cyntaf ym mywyd plentyn, o feichiogrwydd y fam hyd at ben-blwydd y plentyn yn ddwy oed, yn gyfnod hollbwysig sy'n gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad deallusol ac iechyd gydol oes pob unigolyn. Mae'n gyfnod o botensial enfawr, ond hefyd yn gyfnod o fregusrwydd enfawr. Mae'r ymadrodd 'y 1,000 Diwrnod Cyntaf' yn rhoi arwyddocâd i effaith y blynyddoedd cynnar ar ddatblygiad a llesiant plant, yn yr un modd ag yr ydym yn cydnabod ymadroddion fel plant bach, yr arddegau a phobl hŷn.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried i ba raddau y mae polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru yn cefnogi rôl rhiant ar y dechrau'n deg, cyn i’r plentyn gael ei eni ac yn ystod dwy flynedd gyntaf ei oes, ac, yn fwyaf penodol, pa mor effeithiol y mae'r rhain wrth gefnogi galluoedd a datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant.

 

 

Mae amryw ddylanwadau ar iechyd a datblygiad plentyn. Bydd ymgynghoriad cychwynnol y Pwyllgor yn edrych yn fras ar y 1,000 Diwrnod Cyntaf, gan gymryd tystiolaeth ar ba mor effeithiol yw polisïau a rhaglenni Llywodraeth Cymru sy'n:

§  Hybu a diogelu iechyd a lles y plant, o feichiogrwydd y fam (er enghraifft drwy rianta cadarnhaol, cyfraddau imiwneiddio uchel a mynd i'r afael ag ysmygu yn ystod beichiogrwydd);

§  Sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer iechyd plant ledled Cymru (er enghraifft atal gordewdra a hybu ymddygiadau sy'n gwella iechyd pob plentyn, fel bwyta deiet cytbwys, chwarae yn egnïol, a bod eu pwysau a'u taldra yn briodol ar gyfer eu hoedran a'u hiechyd yn gyffredinol).

§  Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ymhlith iechyd plant, gyda ffocws penodol ar dlodi ymhlith plant a phlant anabl.

§  Gostwng marwolaethau plant ac atal anafiadau, yn enwedig yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru lle mae marwolaethau ymhlith babanod yn llawer uwch nag mewn ardaloedd llai difreintiedig.

§  Cefnogi datblygiad plant a'u llesiant emosiynol a chymdeithasol - yn benodol ymyriadau sy'n cael eu darparu y tu allan i'r gwasanaeth iechyd a all helpu i ganfod oedi datblygiadol a mynd i'r afael ag ef.

§  Canolbwyntio ar wella dysgu a datblygiad iaith a lleferydd drwy gyfrwng yr amgylchedd dysgu yn y cartref a mynediad at ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar (gan gynnwys gwarchodwyr plant, meithrinfeydd cyn-ysgol a meithrinfeydd dydd).

§  Lleihau effaith andwyol materion seicogymdeithasol ar y plentyn, megis rhianta gwael, cydberthnasau teuluol aflonyddgar, trais domestig, problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, trwy ddiogelu plant yn effeithiol.

Gwahoddiad i gyfrannu

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig.  Mae'r Atodiad yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am weithdrefnau'r ymgynghoriad, a dylid ystyried y rhain yn ofalus cyn cyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor. 

 

Dylech gyflwyno'ch sylwadau erbyn dydd Gwener 3 Chwefror 2017. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. 

 

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Marc Wyn Jones, Clerc y Pwyllgor ar 0300 200 6565.

 

Yn gywir

Lynne Neagle AC
Cadeirydd

 


 

Atodiad

 

Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor

Datgelu gwybodaeth

1.  Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma; gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â'r Clerc i ofyn am gopi caled o'r polisi hwn.

Cyflwyno tystiolaeth

2.  Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCYPE@cynulliad.cymru

Fel arall, gallwch ei hanfon at:
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA.

3.  Dylai sylwadau gyrraedd erbyn 3 Chwefror 2017.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

4.  Wrth baratoi eich sylwadau, cadwch y canlynol mewn cof:

 

 

 

Canllawiau ar gyfer tystion sy'n darparu tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau

5.  Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl.  Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau.  Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

·                     Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.

·                     Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.

·                     Defnyddiwch ffont glir sans-seriff, fel Lucida Sans. 

·                     Peidiwch ag ysgrifennu dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

·                     Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

·                     Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

·                     Os ydych yn cyfeirio at ddogfen sydd wedi’i chyhoeddi, rhowch hyperlinc at y ddogfen honno, yn hytrach na’r ddogfen ei hun.

 

6.  Lle bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word er mwyn sicrhau hygyrchedd.  Pan fyddwch chi’n cyflwyno sgan neu ddogfen PDF, yn enwedig llythyrau wedi’u llofnodi neu dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol hefyd.

Cyffredinol

7.  Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.  Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.  Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnir i sefydliadau sydd â pholisïau neu gynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

8.  Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ysgrifenedig. Y dystiolaeth a gafwyd yn cyfrannu at ymchwiliadau'r Pwyllgor yn y dyfodol.

9.  Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o sefydliadau i roi sylwadau; mae rhestr o'r rhain ar gael ar gais.  Mae copi o’r llythyr hwn hefyd

 

wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.  Fodd bynnag, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr ymgynghori a’r Atodiad at unrhyw unigolyn neu sefydliad y credwch yr hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad.